Newyddion
Jan 2015 / Learners
Dyma wahoddiad i bob dysgwr ac aelod o staff yn rhwydwaith ACT i geisio ein Cystadleuaeth Sgiliau Cymraeg. Cyfunwch eich sgiliau creadigol a’ch balchder o fod yn Gymro/Cymraes (neu’n byw yng Nghymru) yn un o’r categorïau canlynol:
- Ffotograffiaeth – Tynnwch lun o rywbeth neu rywun sy’n dathlu Cymru mewn un delwedd.Â
- Ysgrifennu creadigol – Ffansio’ch hunan fel y Waldo Williams nesa? Ysgrifennwch stori fer, darn o farddoniaeth, portread o berson enwog neu hyd yn oed jôc. Gall eich gwaith ysgrifenedig fod yn Saesneg neu’n Gymraeg.
- ‘Bake Off’ Cymraeg – Hoffi cacennau? Caru coginio? Beth am gyfuno’r ddau a chreu cacen Gymreig? Gallwch ddefnyddio cynhwysion Cymraeg neu gwneud cacen addurniadol sy’n dalnaws ein gwlad.
- Sgiliau galwedigaethol – Defnyddiwch y sgiliau arbennig rydych wedi eu datblygu yn eich cwrs i greu rhywbeth wedi’i ysbrydoli gan Gymru. Beth am steil gwallt â thema Cymreig? Rhywbeth wedi gwneud â llaw fel draig bren neu lwy garu? Beth am addurno car â phatrwm Cymreig (â chaniatâd wrth gwrs!)? Beth bynnag fyddwch yn dewis, dangoswch eich camau datblygu a’ch cynnyrch gorffenedig mewn lluniau.
- Perfformio – Wastad wedi eisiau bod ar Cân i Gymru?! Byddwch yn greadigol a ffilmiwch eich hun yn canu neu meimio cân, perfformio golygfa o ddrama, rapio neu ddawnsio a’i gyflwyno yn y categori perfformio.Danfonwch eich cynigion ar gyfer pob categori drwy e-bost i carucymru@acttraining.webboxdemo.co.uk ynghyd a’ch enw, rhif ffon, darparwr hyfforddiant ac enw eich tiwtor. Os ydych yn aelod o staff danfonwch drwy eich teitl swydd os gwelwch yn dda.
GWYBODAETH CYSTADLU PWYSIG
• Dyddiad cau ar gyfer pob categori: Dydd Gwener 27 Chwefror 2015
• ‘Bake Off’ Cymraeg: Gwnewch yn siŵr bod eich cacennau yn cyrraedd Ocean
Park House erbyn 3.30pm Dydd Llun 2 o Fawrth mewn cynhwysydd aerdyn gyda
eich manylion wedi nodi arno’n glir
• Enillwyr: Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd Mawrth 3 o Fawrth 2015.