Cafodd hyfforddwr sydd wedi ymroi i newid bywydau ei dysgwyr ers dros 23 o flynyddoedd ei henwi’n Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Cyflwynwyd y wobr i Ros Smith, tiwtor arweiniol cerbydau modur gydag ACT Training, Caerdydd, yn y seremoni wobrwyo fawreddog a gynhaliwyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd nos Wener.
“Mae hyn yn anrhydedd enfawr ac mae’n wych cael fy nghydnabod am bopeth rwy wedi’i wneud yn fy ngyrfa hyd yma,” meddai Ros. “Rwy’n mwynhau gweithio gyda dysgwyr a’u gweld yn symud ymlaen.
“Rwy’n gweithio gyda thîm arbennig ac fe hoffwn i symud ymlaen ymhellach gyda’r cwmni. Y wobr yw’r eisin ar y gacen.”
Llongyfarchwyd Ros ar ei llwyddiant gan Bal Birdi, noddwr y wobr a rheolwr cyfrifon cenedlaethol Pearson. “Rydym wrth ein bodd o gael bod yn brif noddwyr y Gwobrau Prentisiaethau a chael cyflwyno dwy wobr eithriadol i Asesydd y Flwyddyn a Thiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith,” meddai. “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Roedd 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer.
Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Mae Ros yn rhan o dîm sy’n llywio ac yn cyflenwi Hyfforddeiaethau Cerbydau Modur Lefel 1 ac Ymgysylltu ar 10 safle ledled de Cymru, mewn dwy garej go iawn yn bennaf.
Er bod Ros wedi datblygu dwy ffrwd o’r cwricwlwm ar gyfer Lefel 1 ac Ymgysylltu, mae’n barod i addasu a gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod pob dysgwr ifanc yn cael y profiad gorau.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Ros wedi helpu i drawsnewid Hyfforddeiaeth Cerbydau Modur ACT, gan helpu 96% o’r dysgwyr i symud ymlaen at ddysgu pellach neu i waith er bod 90% yn cael ei gyfrif yn rhagorol ar raddfa genedlaethol.
Mewn amgylchedd sy’n cynnwys dynion yn bennaf, mae wedi dod yn fodel rôl ardderchog ar gyfer merched ifanc sy’n dechrau yn y proffesiwn ac i fenywod ifanc trwy’r sefydliad cyfan.
Mae Ros, sy’n byw ym Mhontypridd, bob amser yn mynd yr ail filltir, ac mae wedi dilyn hyfforddiant mewn canfyddiad, dadansoddi trafodol, seicoieithyddiaeth a deallusrwydd emosiynol fel y gall ddeall ei dysgwyr yn well. Mae hefyd wedi meithrin cysylltiadau â chwmnïau modurdai bach a mawr sy’n cymryd ei dysgwyr erbyn hyn.
Wrth longyfarch Ros am ennill y wobr, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae pob un a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi helpu i bennu safon aur mewn hyfforddiant galwedigaethol a dylid cymeradwyo hyn.
“Mae prentisiaethau a hyfforddeiaethau yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac yn fwy cyfartal. Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, o’r farn bod prentisiaethau a hyfforddeiaethau’n ffordd ardderchog o adeiladu gweithlu medrus a chystadleuol, mynd i’r afael â phrinder sgiliau a chryfhau economi Cymru.
“Ni fu erioed yn bwysicach i ni gynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau y bydd Cymru gyfan yn elwa ohonynt ac rydym yn ymroi i barhau â’r gwaith da sydd eisoes ar y gweill gyda busnesau, darparwyr hyfforddiant ac unigolion i gyflawni hyn.”
Yr ymgeisydd arall oedd yn rownd derfynol y dosbarth hwn oedd Matthew Owen o Bontypridd sy’n gweithio i Aspiration Training Limited yng Nghaerdydd.