16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Jan 2020 / Learners

Roedd James Regan, 18, o Radyr yn cael trafferth gyda dysgu o werslyfr, ond gydag ACT, darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru, daeth o hyd i arddull dysgu berffaith iddo fod yn llwyddiannus.

Diolch i raglen brentisiaeth ymarferol a gyflwynwyd trwy ACT, mae James bellach yn rhagori mewn rôl Cymorth Dechnegol gyda’r darparwr gwasanaethau cyfrifiadurol yng Nghaerdydd, QuickSmart IT. Mae QuickSmart IT yn cynnig cefnogaeth TG i fusnesau dros ledled De Cymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De Orllewin Lloegr.

Ar ôl darganfod beth oedd prentisiaeth, sylweddolais ei fod yn ffit berffaith ar gyfer fy ffordd o ddysgu. Dwi ddim yn hoffi dysgu o lyfr testun, a byddai’n llawer gwell gen i ddysgu trwy wneud. Mae pob peth rydw i’n ei ddysgu ar fy mhrentisiaeth yn gysylltiedig â’r hyn ryw i’n ei wneud o ddydd i ddydd. Nid wyf yn darllen llyfr testun a dysgu am bethau nad yw’n mynd i fod yn ddefnyddiol i mi 90% o’r amser.

Dechreuodd llwyddiant James pan ymrestrodd ar raglen hyfforddet ACT lefel 1 TG. Mae’r hyfforddeiaethau yn rhaglenni hyfforddiant cyn-brentisiaeth sy’n paratoi pobl ifanc 16-18 oed ar gyfer byd gwaith. Nid oedd llwybr academaidd traddodiadol yn addas i James, darganfyddodd y gallai ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol trwy brentisiaeth.

Er nad oedd ganddo unrhyw ddealltwriaeth am TG uwch, llwyddodd ACT I sicrhau lleoliad i James gyda Quick Smart IT, a arweinodd yn fuan at gynnig swydd brentisiaeth gyda’r darparwr datrysiadau TG. Ers hynny mae James wedi ffynnu, gan ennill profiad amhrisiadwy ar y brentisiaeth, yn ogystal â llu o sgiliau newydd.

Cyn fy mhrentisiaeth, doedd gen i ddim dealltwriaeth am TG uwch, ond nawr rydw i’n cael gweithio ar ychydig o bopeth o rwydweithio i osodiadau a gweinyddwyr. Gyda QuickSmart IT, rwyf wedi bod yn dysgu pethau newydd bob dydd ac mae fy nealltwriaeth mewn TG wedi ehangu’n anhygoel ers i mi fod yma. ”

Fel miloedd o brentisiaid eraill, mae James yn elwa’n aruthrol o’r cyfle i arbenigo a datblygu ei set sgiliau yn y swydd, wrth ennill cymwysterau a derbyn cefnogaeth sydd wedi’i theilwra.

”Mae ACT wedi bod yn wych ac wedi fy nghefnogi bob cam o’r ffordd. Canfûm fod y sesiynau tiwtor wyneb yn wyneb yn help mawr i’m cael trwy fy nghymhwyster Lefel 3. Gyda chefnogaeth ACT, rwyf bellach wedi cwblhau fy nghymhwyster Defnyddwyr TG a Chyfrifiaduron Lefel 1 a fy Sgiliau Defnyddiwr TG Lefel 3. Mae QuickSmart IT wedi bod yn wych hefyd. Unrhyw bryd rydw i wedi teimlo’n sownd neu angen cefnogaeth, maen nhw’n fwy na pharod i helpu”

Gan feddwl ymlaen at ei ddyfodol, ychwanegodd James, ‘Gan symud ymlaen rwyf am ddatblygu fy sgiliau a chael gwybodaeth lawer mwy trylwyr o rwydweithio a gweinyddwyr i weithio fy ffordd i fyny! Rwyf mor falch fy mod wedi cael fy nghyfeirio at gyfeiriad ACT, sydd wedi bod yn help enfawr i’m cael yn ôl ar y trywydd iawn. Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried hyfforddi yn y swydd yw ‘mynd amdani 100%’. Dyma’r ffordd orau i ddysgu.

Os ydych chi wedi eich ysbrydoli gan stori ‘James’ ac yn credu y gallai Prentisiaeth fod ar eich cyfer chi, yna edrychwch ar ein swyddi gwag Prentisiaeth yma. Mae gennym gannoedd o swyddi gwag ar gael gyda chyflogwyr gorau Cymru, sy’n chwilio am ymgeiswyr ifanc talentog fel chi. Ymgeisiwch nawr

 

 

Rhannwch