16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Aug 2020 / Company

Mae ACT, darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru, wedi cyrraedd y lefel uchaf o achrediad sy’n bosibl gan Investors in People- Rydym yn buddsoddi mewn pobl, achrediad Platinwm. Dim ond 2% o sefydliadau ledled y byd sy’n ennill achrediad IIP sy’n cyrraedd statws platinwm!

Mae safonau Investors in People yn achrediadau a gydnabyddir yn rhyngwladol a ddelir gan dros 10,000 o sefydliadau ledled y byd. Gan ddefnyddio methodoleg a fframweithiau asesu trylwyr, mae’r IIP yn gosod meincnod ar gyfer rheoli pobl yn well. Mewn cwmni platinwm, mae pawb – o’r Prif Swyddog Gweithredol i brentis gwasanaethau cwsmeriaid – yn gwybod bod ganddyn nhw ran i’w chwarae yn y cwmni yn gwneud yn dda, a maen nhw bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella.

Pobl yw popeth i ACT! Nod ac angerdd y cwmni yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy ddarparu addysg rhagorol, felly mae pob un o’u 371 o staff yn dod fewn i’r gwaith bob dydd i wneud yn union hynny. Dros y 3 degawd diwethaf, mae ACT, sydd bellach yn rhan o Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi bod yn cyflwyno Rhaglenni Ysgol, Hyfforddeiaethau, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch i’w nifer amrywiol o ddysgwyr gyda dros 6,500 o bobl yn pasio trwy eu drysau bob blwyddyn.

Mae bod yn gyfrifol yn bwysig iawn i fodel busnes ACT ac mae’n treiddio trwy bopeth maen nhw’n ei wneud. Mae’r cwmni’n cydnabod bod bywyd yn rhy fyr i fod yn anhapus felly maen nhw’n buddsoddi yn hapusrwydd a lles eu staff fel eu dysgwyr. Gyda chanolfannau wedi’u lleoli drwy ledled Cymru, mae ACT a’u staff yn gweithio tuag at y nod o wneud Cymru yn lle gwell yn gymdeithasol ac yn economaidd.

Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Investors in People: “Hoffem longyfarch ACT. Mae achrediad platinwm ar We Invest in People yn ymdrech ryfeddol i unrhyw sefydliad, ac yn gosod ACT mewn cwmni da gyda llu o sefydliadau sy’n deall gwerth pobl. ”

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Richard Spear, Rheolwr-Gyfarwyddwr ACT: “Mae ACT wedi cofleidio fframwaith IIP ers amser maith gan ein bod yn credu’n gryf bod ymgysylltu a grymuso staff yn allweddol i ddarparu gwasanaethau gwych i’n dysgwyr. Rydym yn hynod falch ein bod wedi derbyn y statws Platinwm ac yn arbennig o falch ein bod wedi cyflawni’r sgôr meincnod uchaf erioed i gwmni o’n maint yn ein sector. Mae’n dyst i’r tîm anhygoel o gydweithwyr sydd gennym yn ACT.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a Fro, Mike James: “Mae cael achrediad Platinwm Investors in People yn newyddion gwych i ACT a Grŵp CAVC. Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn ymwneud â gwerthfawrogi a gwrando ar ein staff a gwneud Grŵp CAVC yn lle gwych i weithio felly rydym yn falch iawn bod y cynnydd a wnaethom yn y meysydd hyn wedi’i gydnabod.

“Mae hon yn wobr i bawb, am weithio gyda’n gilydd a chyfrannu at ddatblygiad ein gweledigaeth a’n gwerthoedd. Mae mwy o waith i’w wneud, ond mae hwn yn sylfaen gyffrous i adeiladu arni wrth i ni barhau i ddatblygu fel sefydliad.

Mae Investors in People ac ACT yn credu bod llwyddiant eich sefydliad yn dechrau ac yn gorffen gyda phobl. Os ydyn ni’n gwneud gwaith yn well i bawb, rydyn ni’n gwneud gwaith yn well i bob sefydliad. Ac os gwnawn ni hynny … gallwn wneud cymdeithas yn gryfach, yn iachach ac yn hapusach.

Rhannwch