16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Sep 2020 / Learners

Dywed cynorthwyydd theatr ar brentisiaeth o Frynmawr fod ei brentisiaeth wedi gwneud gwahaniaeth mawr wrth iddo weithio yn y rheng flaen yn ystod y pandemig coronafeirws.

Gweithio yn y sector gofal iechyd fu dymuniad Dylan Williams, 24 oed, erioed ac er bod ganddo ddiddordeb mewn nyrsio, nid oedd yn siŵr a allai gyflawni’r nod hwnnw.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn swyddi a sgiliau gwerth £40m yn ddiweddar a fydd yn hanfodol i gymell cyflogwyr i recriwtio a chadw hyd at 5,000 o brentisiaid, fel Dylan.

Mae prentisiaeth yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn ei helpu i gael cymwysterau newydd ac i symud ymlaen yn ei yrfa.

Mae’r pandemig coronafeirws wedi newid y ffordd mae Dylan yn gweithio a dywed nad oedd erioed wedi rhagweld pa mor hanfodol fyddai ei rôl i helpu’r GIG i achub bywydau ledled Cymru.

Meddai Dylan: “Mae fy mhrentisiaeth wedi fy nysgu i sylweddoli fy mod yn gallu gwneud mwy nag oeddwn i’n sylweddoli. Mae wedi bod yn daith anodd, ac mae gweithio yn ystod pandemig byd-eang wedi bod yn brofiad dwys, ond rwyf mor falch fy mod wedi cyrraedd ble ydw i heddiw ac rwyf yn ysu i weld beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig.

“Roeddwn wrth fy modd â chyffro’r theatr ac roedd y gwaith shifft prysur yn bopeth roeddwn wedi gobeithio amdano. Rwyf wedi gwneud tipyn o bopeth: croesawu cleifion wrth iddynt gyrraedd y ward, dod â hwy i’r theatr a helpu’r nyrs sgryb i lanhau a pharatoi’r ystafell.

“Fel cynorthwyydd theatr, ni fedrwn symud ymlaen â fy ngyrfa heb gael y cymwysterau, felly ar ôl siarad ag ychydig o gydweithwyr a fy rheolwr, mi wnes i gofrestrau ar Brentisiaeth Lefel 2 mewn Gofal Iechyd Clinigol.”

Ar ôl yr wythnos gyntaf, dechreuodd Dylan amau ei alluoedd ei hun, ond diolch i’r help un i un a gafodd tra’r oedd yn cwblhau ei brentisiaeth mi lwyddodd i adennill ei hyder.

Meddai Dylan: “Ar ôl edrych ar ychydig o’r gwaith cwrs cychwynnol mi fflachiodd gwaith ysgol o fy mlaen unwaith eto fel hunllef, a doeddwn i ddim yn credu y gallwn ei wneud. Roedd gen i ofn ac roeddwn eisiau rhoi’r gorau iddi. Ond mi gefais i help mawr gan fy rheolwr a fy asesydd ac ers hynny nid wyf wedi edrych yn ôl.

“Pan fyddaf yn gweithio ar y dderbynfa, fi yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar y ward, felly rhaid imi wneud yn siŵr fy mod yn gyfeillgar ac yn gallu gwneud i gleifion deimlo’n gartrefol. Nid yw’n syndod bod pobl yn fwy ofnus ynglŷn â germau ar y funud felly rhan bwysig o fy ngwaith yw tawelu eu hofnau a gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus.

“Rwyf yn dysgu am reoli heintiau, deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau, ac adnabod gwahanol fathau o gam-drin.

“Rwyf wedi gorfod dysgu’n gyflym am bob agwedd ar gyfarpar diogelu personol (PPE) a rhyw bythefnos yn ôl, mi gymerais ran yn fy ngalwad Microsoft Teams gyntaf – ac mae hynny’n sgil newydd y gallaf ei hychwanegu at y rhestr.

“Rwyf yn mwynhau pob munud o fy nghwrs ac yn hedfan drwy’r gwaith. Mae fy asesydd wedi dechrau sôn am symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3, ac ni allaf aros am hynny fel y gallaf weithio tuag at fy nghwrs nyrsio.”

Meddai Laura Kingscott, Prif Nyrs Gynecoleg a CEPOD, Prif Theatr Nevill Hall: “Mae Dylan yn gwneud cynnydd da iawn yn ei brentisiaeth – hyd yn oed gan gofio am y pwysau ychwanegol sydd wedi dod yn sgil Covid-19. Roedd yn un o’r staff a gafodd ei symud i helpu i leddfu’r pwysau mewn wardiau eraill, lle’r oedd yn helpu i ymolchi cleifion – rhywbeth na fyddai disgwyl iddo ei wneud fel arfer.

“Mae mor awyddus i ddysgu ac mae wedi llwyddo i gadw’i feddwl ar ei gwrs drwy gydol deufis sydd wedi bod yn hynod o brysur, sy’n golygu ei fod wedi mynd ymhellach na’r disgwyl gyda’i hyfforddiant.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae mor galonogol i weld prentisiaid fel Dylan yn gweithio yn y rheng flaen fel rhan o’r GIG ac yn gwneud gwaith mor dda mewn cyfnod mor anodd. Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar ein heconomi, ac mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau angenrheidiol, eu bod yn gallu addasu ac yn barod i weithio i helpu ein hadferiad economaidd.

“Dyma pam y gwnaed y cyhoeddiad diweddar am y pecyn cymorth gwerth £40m a fydd yn gwbl hanfodol i helpu cyflogwyr i dderbyn a hyfforddi gweithwyr newydd, gan gynnwys prentisiaid a phobl ifanc.

“Mae gan brentisiaethau rôl allweddol o hyd i sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Bydd meddu ar gronfa o dalent yn helpu i sicrhau bod gan unigolion a busnesau ledled Cymru’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i helpu i brofi’r lefelau twf yr oeddem yn eu mwynhau cyn y pandemig, unwaith eto.”

Os ydych chi wedi eich ysbrydoli gan stori ‘Dylan’ ac yn credu y gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi, yna edrychwch ar ein llwybrau prentisiaeth a gynigiwn yma. Yn ACT, rydym yn cynnig llawer o gymwysterau sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i uwchsgilio yn eich rôl bresennol ac adeiladu gyrfa werth chweil. Am beth ydych chi’n aros? Ymgeisiwch nawr!

 

Rhannwch