Mae Lewis Jones, Tiwtor Arlwyo/ Cydlynydd Cwricwlwm ACT, wedi bod yn cadw ei ddosbarthiadau coginio ar-lein yn ffres ac yn ddeniadol, drwy annog dysgwyr i goginio ochr yn ochr ag ef fel rhan o gyfres o diwtorialau coginio sy’n cael eu ffrydio’n fyw.
Yn ogystal â dysgu sgiliau coginio amhrisiadwy, mae dysgwyr yn dysgu sut i baratoi prydau maethlon a hawdd eu coginio y gall y teulu cyfan eu mwynhau!
Er bod ACT wedi bod ar flaen y gad ac yn cynnig dysgu cyfunol ar-lein ers peth amser, mae’r pandemig wedi gorfodi llawer ohonom i addasu dros nos i ffordd gwbl newydd o weithio. Er bod llawer o ddysgwyr yn ffynnu wrth ddysgu o bell, i rai o’n dysgwyr Hyfforddeiaeth iau gall fod yn her ymgysylltu. O ganlyniad, mae ein staff cyflwyno yn cynnig ffyrdd arloesol a chyffrous newydd o gael ein dysgwyr i ymuno ac yn awyddus i fewngofnodi.
Mae dull Lewis o ennyn diddordeb dysgwyr yn cynnwys creu danteithion blasus a phrydau maethlon iddyn nhw eu coginio ochr yn ochr ag ef drwy gyswllt fideo. Mae’r tiwtorialau’n sicrhau bod dysgwyr yn gallu dysgu sgil gydol oes werthfawr mewn ffordd hwyliog egnïol.
Dywedodd Lewis, “Mae’r dysgwyr wir yn mwynhau’r ymagwedd hamddenol yn y sesiynau byw. Yn ddiweddar fe wnaethom archwilio coginio yng nghyd-destun ‘Tân a Mwg’. Roedd y ddrama y gwnaethon ni ei chreu, o oleuo’r tân, drwodd i goginio bob amser yn mynd i fod yn ddiddorol, oherwydd pwy sydd ddim yn mwynhau barbeciw ar ffurf wreiddiol? Mae sesiynau coginio byw eraill fel archwilio bwyd môr a gwneud bara wedi helpu i ychwanegu amrywiaeth at y sesiynau hefyd.
Fe wnaethom sesiwn hefyd ar sut i baratoi pitsa Neapolitan o’r dechrau. Fe wnaethon ni edrych ar yr hanes y tu ôl i bitsas – ‘pwy wyddai fod margarita wedi ei enwi ar ôl Brenhines yr Eidal?’ – a thrwy rai fideos YouTube gwych ac adnoddau ar-lein, cyfarfod â chynhyrchwyr yr haenau uchaf clasurol. Mae’r rhain yn cynnwys mosarela byfflo a Pièce de résistance pitsa Neapolitan da, tomatos San Marzano, wedi’u tyfu ar waelod Mynydd Vesuvius. Roedd gweld pa mor gyffrous oedd y dysgwyr i ddechrau gwneud eu pitsa o’r dechrau ar gyfer eu cinio yn gwneud y cyfan yn werth chweil.”
Hyd yn oed ar gyfer elfennau dysgu cwricwlwm ei weithdai, mae Lewis yn ymdrechu i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu. Un pwnc dosbarth poblogaidd oedd ‘swshi’, a welodd Lewis a’r dysgwyr yn archwilio popeth sydd i’w wybod am y pwnc. Aethant ar deithiau ar-lein o farchnadoedd prysur yn Siapan, sef o ble mae’r cynnyrch yn dod, dysgu’r hyn mae’n ei gymryd i fod yn feistr swshi, yn ogystal â’r cyllyll a’r offer sy’n cael eu defnyddio a’r cynaliadwyedd y tu ôl i’r pysgod.
Dywedodd Lewis, “Yr hyn oedd yn wych oedd bod y pwnc swshi wedi mynd â ni ar daith ddiddorol lle’r oeddem yn edrych ar grefydd a daearyddiaeth yn y pen draw. Fe wnaeth ganiatáu i mi a’r dysgwyr archwilio swshi drwy lawer o wahanol lwybrau.”
Yn awyddus i sicrhau nad yw dysgwyr yn sownd i sgrin drwy’r dydd mewn gwersi byw, mae Lewis hefyd wedi cynnig darpariaeth â ffocws lle mae dysgwyr yn archwilio pynciau y tu hwnt i arlwyo yn ogystal â datblygu sgiliau newydd. Mae rhywfaint o’r addysg hwn wedi cynnwys: uwchgylchu sbwriel gartref yn wrthrychau defnyddiol,
heriau ffotograffiaeth Cymru, heriau bwyta’n iach ynghyd ag ymarfer corff ac addysg Black Lives Matter. Fodd bynnag, fel pawb, mae’r pandemig hefyd wedi cyflwyno heriau i Lewis ond mae hyd yn oed y rhain wedi arwain at rai canlyniadau cadarnhaol annisgwyl!
“Mae gweithio gyda dau o blant ifanc dan dair mlwydd oed wedi bod yn her! Yn enwedig pan fydd fy mab Otto yn gwrthio ei ffordd i mewn i sesiwn. Yn ddiddorol, mae’n sbarduno’r dysgwyr eraill i
ymgysylltu mwy – rhyfeddodau plant! Mae presenoldeb Otto yn eu gwneud yn gartrefol ac mae hyn wir yn helpu yn yr ystafell ddosbarth rithwir.”
Gan fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a’r hyn mae wedi’i ddysgu iddo, awgrym Lewis i gydweithwyr eraill sy’n cyflwyno ar y rheng flaen yw, “Peidiwch byth â chymryd sgil ymarferol yn ganiataol y gellir ei addysgu a’i drosglwyddo’n fyw yn ei dro – waeth pa mor rhyfedd y gallai ymddangos!”
Os ydych chi’n 16-18 mlwydd oed ac yn teimlo’n angerddol dros goginio, yna gallai ein Hyfforddeiaeth Lletygarwch ac Arlwyo fod yn berffaith i chi! Dysgwch fwy am y llwybr yma, neu cysylltwch â’n tîm Cyfleoedd heddiw ar info@acttraining.webboxdemo.co.uk