16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Sep 2021 / Learners

Neidiodd Lois Denatale, yn arddegwraig greadigol, ar y cyfle pan gafodd gynnig prentisiaeth mewn busnes arwyddion modern, gyda chleientiaid cyffrous.

Mae’r frodores o Gaerffili yn astudio cymhwyster Gweinyddu Busnes gydag ACT Training, ond roedd am gael mwy o brofiad ymarferol mewn busnes ffyniannus.

Fe wnaeth ei Hasesydd yn ACT Training, Michelle Marshall, roi gwybod iddi am gyfle prentisiaeth gyda Print Sauce, cwmni arwyddion blaenllaw o Dde Cymru sydd wedi bod yn cynnig cynnyrch pwrpasol bywiog ers dros ddegawd.

Meddai Lois: “Cysylltodd ACT â mi i roi gwybod i mi am y brentisiaeth gyda Print Sauce. Roedd y rôl yn apelio ataf am ei bod yn amrywiol iawn ac nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Roedd y brentisiaeth yn gadael i mi ddechrau heb brofiad a dysgu yn y swydd.”

Wedi’i leoli yng Nghaerffili, mae Print Sauce yn creu popeth o graffeg sy’n dal llygaid ar gyfer lorïau nwyddau trwm, i faneri rholio a phosteri PVC.

Mae ei restr drawiadol o gleientiaid yn cynnwys Warner Bros, y maen nhw’n ffitio graffeg hyrwyddo enfawr i flaen sinemâu ar eu cyfer. Mae Print Sauce hefyd yn gweithio i Brifysgol Caerdydd, Met Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Cyngor Sir Fynwy ac amrywiaeth o fusnesau llai.

Yn ei rôl prentisiaeth, mae’r ferch 18 mlwydd oed wedi mwynhau profiad ymarferol mewn sawl agwedd o’r diwydiant, lle mae’n gweld ei dyfodol.

Dywedodd: “Rwy’n helpu i wneud pob math o arwyddion, argraffu a graffeg cerbydau. Mae hyn yn golygu torri byrddau i lawr, lamineiddio, gweithredu peiriannau argraffu a thorwyr finyl ac unrhyw beth tebyg i’w wneud â gwneud arwyddion.”

Yn ystod y brentisiaeth, cynigiodd ACT archwiliadau misol i Lois i fesur ei chynnydd. Roedd ganddi hefyd rywun y gallai ei ffonio neu ei e-bostio, pe bai hi angen hynny. Ar y cyfan, mae’r profiad wedi rhoi sgiliau iddi i helpu i sicrhau bod gyrfa gyffrous o’i blaen.

Dywedodd: “Rwyf wedi datblygu fy nulliau cyfathrebu ac yn teimlo’n fwy hyderus wrth siarad â chwsmeriaid. Rhoddodd y cyflogwr gymorth a chefnogaeth gyson gyda’r rôl. Cymerodd aelodau’r staff amser i fynd drwy dasgau gyda mi. Mae pawb hefyd wedi helpu i wneud i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi ac yn rhan o’r tîm.”

Daeth Lois yn ymwybodol o ACT Training drwy Weithiwr Ieuenctid ei hysgol ac nid yw’n credu bod y rhan fwyaf o’r rhai sy’n gadael yr ysgol yn gwybod am yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael ar ôl TGAU. Os yw rhywun yn ystyried prentisiaeth, yn hytrach na choleg neu brifysgol, ei chyngor yw: “Ewch amdani!” Ychwanegodd: “Mae profiad a hyfforddiant yn y swydd tra’n ennill cyflog yn fantais fawr.”

Gyda’r holl sgiliau a phrofiad ychwanegol i’w henw, mae Lois bellach yn cynllunio ei cham nesaf, gyda nod gyrfa o fod yn Rheolwr Cynhyrchu, sy’n gyfrifol am yr holl brosesau o fewn yr adran argraffu.

Wrth edrych i’r dyfodol, ychwanegodd: “Mae’r diwydiant argraffu yn enfawr ac mae fy sgiliau yn drosglwyddadwy i gwmnïau eraill.”

Os ydych chi’n cynllunio eich dyfodol ac awydd gyrfa mewn cwmni sy’n eich cyffroi, ewch i’n tudalen Gweinyddu Busnes!

Ewch draw i’n tudalen Llwybrau Rydyn Ni’n Eu Cynnig i gael gwybod mwy am y cymwysterau seiliedig ar waith rydym yn eu cynnig.

Rhannwch