16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Nov 2021 / Learners

Fel rhywun sydd â gyrfa mewn teithio ar ei meddwl, dechreuodd taith Kerene Kipulu yn ACT Training.

Cwblhaodd Kerene, 20, Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid gyda ACT, a oedd yn fan cychwyn pwysig, gan ddarparu llawer o sgiliau craidd i’w helpu tuag at ei breuddwyd o swydd uchaf yn y sector twristiaeth.

Dywedodd: “Datblygais sgiliau gwrando, meddwl a chyfathrebu beirniadol, rheoli amser, sgiliau rhyngbersonol, cyfrifiadur, gweithio mewn tîm, datrys problemau, gwasanaeth cwsmeriaid a sgiliau arwain yn ystod fy lleoliadau gwaith ac yn ystod y dosbarth, ymhlith cyfoedion.”

Yn wreiddiol o Kinshana, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, dilynodd ei gwobr ACT gyda chymhwyster Teithio a Thwristiaeth Lefel 2 a 3 o Goleg Caerdydd a’r Fro. Ei stop nesaf yw Prifysgol Met Caerdydd, lle bydd yn astudio Rheoli Twristiaeth Ryngwladol.

Mae’n teimlo y bydd yr hyder y gwnaeth ei ennill o’i hamser yn ACT yn ei helpu i lywio’r holl ddysgu yn y dyfodol – yn y swydd a thu hwnt.

Dywedodd: “Mae’r sgiliau hyn yn mynd i fy helpu wrth weithio gyda grŵp mawr o bobl yn y brifysgol, bydd yn fy helpu gyda chyflwyno a lleoliadau gwaith yn y dyfodol. Bydd hyn yn fy ngalluogi i arddangos y sgiliau y gwnes i eu meithrin a’u dysgu yn ystod fy nghyfnod yn ACT.

“Bydd yn fy helpu i ffitio i mewn ac ar adegau yn profi fy mod yn gymwys i fod yn arweinydd tîm hyderus yn y dyfodol. At hynny, bydd yn fy helpu i wella ac addasu i amgylcheddau gweithio neu astudio newydd. Byddaf yn gallu defnyddio ac arddangos fy ngalluoedd.”

Nid yw Kerene yn credu bod pobl ifanc yn cael gwybod am y gwahanol opsiynau dysgu sy’n bodoli ar ôl addysg brif ffrwd, ond mae’n dymuno i fwy ddilyn yr un llwybr â hi, fel eu bod yn cael “gobaith i ddilyn eu breuddwydion”.

Fe wnaeth y ffan K-pop ganfod bod cwrs ACT yn rhoi gwell dealltwriaeth iddi o’r berthynas rhwng y cyflogai a’r cwsmer, gan roi cipolwg ar sut mae’r swyddogaethau deinamig hyn yn gweithio. Ychwanegodd: “Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod am weithio mewn maes sy’n gysylltiedig â gwasanaeth cwsmeriaid.”

Yn ddysgwr eiddgar, mae Karene hyd yn oed yn greadigol yn ei hamser hamdden, yn coginio ac yn golygu fideos ar-lein am gerddoriaeth bop, sydd â chynulleidfa gynyddol!

Eglurodd: “Rwy’n hoffi treulio fy amser rhydd yn golygu fideos a’u postio ar TikTok, ac rwyf wedi gallu ennill nifer enfawr o ddilynwyr a gwylwyr sy’n mwynhau fy ngwaith a’m maes diddordeb, sef K-pop.

“Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn dysgu pethau ymarferol ac addysgol ar yr ap TikTok neu YouTube, sydd, yn fy marn i, wedi bod o fudd cadarnhaol i mi o ran deall fy iechyd, yr amgylchedd, pethau’n wyddonol ac yn wleidyddol.”

Gyda cheisio gwybodaeth yn angerdd amlwg iddi, mae Kerene wedi cael blas ar y cyfle i ddysgu sgiliau pwysig ar gyfer y gweithle gyda ACT. “Bydd y sgiliau rwyf wedi’u dysgu yn gwneud i mi sefyll allan a’m gwneud yn fwy cyflogadwy,” meddai.

Y cwrs gydag ACT oedd y cam cyntaf ar daith bersonol bwysig iawn ac mae gan Kerene eisoes rai swyddi perffaith yn ei golygon.

Dywedodd: “Rwy’n bwriadu gweithio mewn maes sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth yn y dyfodol fel asiant teithio, rheolwr gwesty neu gynrychiolydd gwyliau.”

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Kerene ac os hoffech wybod mwy am Hyfforddeiaethau yn ACT, ewch draw i’r dudalen Hyfforddeiaeth neu cysylltwch â ni!

Rhannwch