16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Nov 2021 / Company

Mae’n bleser gan ACT gyhoeddi iddynt gael eu henwi’n Gyflogwr y Flwyddyn y DU: Platinwm (250+), yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2021!

Hoffem ddiolch i’n holl staff gwych, ein dysgwyr, cyflogwyr, partneriaid, panel beirniadu Buddsoddwyr mewn Pobl, a’n hymarferydd Kevin Christie, am yr anrhydedd anhygoel hon.

Er ein bod ni wedi cystadlu yn erbyn cystadleuaeth galed, ein ffocws cadarn ar hapusrwydd ac ymgysylltiad parhaus ein staff, ochr yn ochr â’n hymroddiad i gynnal diwylliant cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar bobl, enillodd y wobr i ni.

Mae ACT yn mynd y cam ychwanegol er mwyn sicrhau bod ein timau’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu galluogi a’u cydnabod am y gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud bob dydd.  Mae gennym ddiwylliant hyfforddi sydd wedi’i hen sefydlu trwy’r sefydliad cyfan ac mae hyn yn ein galluogi i ddefnyddio hyfforddi fel arf ar gyfer datblygu, lle mae staff yn cynnig eu datrysiadau eu hunain i broblemau, ac yn cael y rhyddid a’r rheolaeth i wneud yr hyn sy’n iawn i’n dysgwyr.

Fel sefydliad, rydym wedi wynebu sawl her yn ystod pandemig COVID-19, ac rydym wedi gallu goresgyn y rhain trwy ganolbwyntio ar lesiant ac mae hynny wedi helpu i sicrhau ysbryd diwyro yn y tîm.

Dywedodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT: “Rydyn ni wrth ein bodd yn ennill y wobr bwysig hon yn wyneb cystadleuaeth anhygoel o gryf.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn a llongyfarch fy nghydweithwyr anhygoel am y llwyddiant anhygoel hwn.  Bydd y wobr yn ein hysbrydoli i wneud hyn yn oed mwy i wneud ACT yn le gwych i weithio.

Mae ACT yn is-gwmni ym mherchnogaeth llwyr Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC). Meddai Mike James, Prif Swyddog Gweithredol CAVC: “Rydw i wrth fy modd bod ACT wedi ennill y wobr hon sy’n cael ei pharchu cymaint, a byddwn yn hoffi llongyfarch paw bar draws y sefydliad sydd wedi gweithio mor galed i’w chyflawni. Ar draws Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro mae gennym ymrwymiad cadarn i les ein staff, felly mae’n hyfryd gweld ACT yn ennill Cyflogwr y Flwyddyn y DU: Platinwm (250+)

Dywedodd Paul Devoy, Buddsoddwyr mewn Pobl: “Roedd Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2021 yn flwyddyn a dorrodd record o ran y nifer a gofrestrodd a’r nifer o sefydliadau a gymerodd ran.  Felly, ar gyfer pob sefydliad a enillodd, roedd eich buddugoliaeth yn teimlo’n ychydig mwy melys!

“Rydw i mor falch o bob sefydliadau a gymerodd ran eleni, gan ddangos eu hymrwymiad arbennig i wneud lle gwaith yn lle gwell. Fel enillydd, mae ACT yn wirioneddol sefyll allan yng nghanol y dorf. Da iawn i bawb a fu’n rhan o hyn!”

Byddwn yn falch o allu dal y wobr hon yn uchel, gan ddangos ein bod yn un o’r cyflogwyr gorau yn y DU gan ddangos ein hymroddiad parhaus i wneud gwaith yn lle gwell i’n pobl.  Bydd y wobr yn ein galluogi i ddenu’r talent gorau a mwyaf disglair er mwyn cyflawni ein nodau uchelgeisiol at y dyfodol. Edrychwn ymlaen at amddiffyn ein coron Buddsoddwyr mewn Pobl yn 2022!

Rhannwch