16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Dec 2021 / Learners

Mae grŵp o ddysgwyr ACT eiddgar wedi bod yn helpu mewn siop elusen yn Ne Cymru, gan ddysgu sgiliau gwaith hanfodol.

Mae’r dysgwyr Gwasanaethau Busnes i gyd wedi bod yn cynorthwyo yn siop Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n arbenigo mewn gwerthu dodrefn a nwyddau cartref o’r radd flaen.

Mae Eithan Dunster, 18, Rhydian Lewis, 18, a Kallum Taylor, 19, yno ar leoliad Hyfforddeiaeth, sy’n rhedeg i’r Flwyddyn Newydd. Maen nhw wedi bod yn gweithio tri diwrnod yr wythnos yn warws y siop, sydd wedi’i lleoli ar Stryd Bracla brysur y dref.

Dywedodd Rheolwr Cynorthwyol y siop, Emily Pope, sydd wedi bod gyda BHF ers saith mlynedd, fod y dysgwyr sy’n creu argraff wedi bod yn dysgu sgiliau pwysig iawn ar gyfer y gweithle.

Dywedodd: “Mae’r dysgwyr wedi datblygu eu lefelau hyder ers iddyn nhw fod gyda ni.

“Mae’r criw yn dysgu ystod eang o sgiliau gwahanol, i’w gwneud yn fwy cyflogadwy. Maen nhw’n mwynhau eu lleoliad yn fawr ac yn rhan o’r tîm.

“Hoffwn ddweud ‘diolch’ mawr i Eithan, Rhydian a Kallum, am fod yn rhan o’r tîm anhygoel sydd gennym eisoes. Hefyd, ‘diolch’ am yr holl waith caled maen nhw wedi’i wneud ers iddyn nhw fod yma gyda ni.”

Mae’r triawd hyfforddeiaeth yn dysgu sgiliau warws allweddol, megis codi gwrthrychau trwm yn gywir, ynghyd â chanllawiau hanfodol ar iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Mae diwrnod arferol yn eu gweld yn cyrraedd am 9.30am yn brydlon, cyn rhoi eu hesgidiau amddiffynnol, menig a siacedi diogelwch llachar ymlaen. Unwaith yn barod i fynd, maen nhw wedyn yn cael eu tasgau am y diwrnod.

Yn ogystal â chodi a chario ac iechyd a diogelwch, maen nhw wedi dysgu llawer am waith tîm a dod o hyd i atebion fel rhan o grŵp.

Ychwanegodd Rebecca Broad, Arweinydd Sector Gwasanaethau Busnes ACT: “Mae mor bwysig i ACT adeiladu partneriaethau cryf gydag elusennau a chyflogwyr lleol, fel y gallwn gydweithio i gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu nodau.

“Mae BHF yn caniatáu i’n dysgwyr gymhwyso theori o’r dosbarth i’r byd gwaith go iawn, felly rydym yn hynod ddiolchgar iddynt.”

Os ydych chi rhwng 16 a 18 mlwydd oed ac yn awyddus i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i ymuno â’r byd gwaith, edrychwch ar yr amrywiaeth o lwybrau Hyfforddeiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys Gwasanaeth Cwsmeriaid. Byddwch yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i roi hwb i chi tuag at eich swydd ddelfrydol!

Rhannwch