16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
May 2022 / Learners

Mae Dysgwyr ifanc ACT wedi bod yn greadigol yng nghanol dinas Caerdydd, mewn prosiect celf arbennig i ail-greu murluniau enwog a oedd wedi’u dinistrio’n ddamweiniol.

Y gred oedd bod sawl murlun lliwgar, ar golofnau y tu ôl i hen safle Debenhams, wedi cael eu colli am byth, ond maen nhw wedi cael eu hail-greu y tu mewn i Ganolfan Capitol, gan Ddysgwyr ac artistiaid proffesiynol yn mynychu’r prosiect celf PWSH!

Un o’r darnau gorau a wnaeth y peintwyr ifanc gyda’i gilydd oedd gwaith celf mawr a oedd yn dangos pobl o wahanol hiliau a chredoau, wedi uno gyda’i gilydd. Gan greu nifer o ddarnau y tu mewn i unedau siopau gwag, cawsant eu harwain gan artistiaid uchel eu parch a fu’n gweithio ar y murluniau gwreiddiol, gan gynnwys Beth Blandford (Blandoodles) Temeka Davies (Noble Sol) ac Amber Smith (BeanHead). Mwynhaodd pob un ohonynt y sesiynau, a oedd yn rhan o Raglen Gyfoethogi ACT, i roi profiadau gwych i ddysgwyr.

Dywedodd y Dysgwr Arlwyo Caitlin Boyce, 17 mlwydd oed o Gaerdydd: “Ar ôl y cyfnod clo, mae’r prosiect creadigol hwn yn dda iawn, i ddod â phobl at ei gilydd, i wneud rhywbeth diddorol.

“Mae’n well gen i luniau sydd â negeseuon, felly mae’n amlwg bod gan yr un yma neges iddo. Mae’n dda iawn ei fod yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd, o wahanol ddiwylliannau.”

Ychwanegodd: “O’r prosiect hwn, rwy’n gobeithio cael profiad o baentio â llaw, gan fod gen i ddiddordeb yn y math hwn o gelfyddyd stryd. Rydw i wedi gwneud fy mhaentiadau fy hun mewn llyfrau celf, ond erioed wedi gwneud dim byd mor fawr â hyn.”

Dywedodd Katie Schaffer, Rheolwr Cyfoethogi ACT, y bydd y Dysgwyr yn falch o weld eu gwaith celf yn cael ei arddangos i siopwyr yn y Ganolfan Capital brysur.

Dywedodd: “Mae ACT wedi bod yn gyffrous iawn i ymuno â’r prosiect PWSH! yng Nghanolfan Capitol yng Nghaerdydd i greu celf anhygoel, gan weithio gydag artistiaid o Gymru. Mae ein dysgwyr wedi cael cyfle i weithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl ac i archwilio eu hochr greadigol.”

Mae PWSH! yn brosiect parhaus sy’n esblygu, gyda gwaith celf hirdymor yn cael ei arddangos ar draws y ddinas. Fe’i sefydlwyd i alluogi artistiaid gweledol gyda chysylltiad â Chaerdydd i addurno canol eu dinas, ar ganfasau cyhoeddus mawr.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyfforddi cyffrous yn ACT, gan gynnwys y rhai ar y fenter JGW+ newydd, ewch i yma.

Rhannwch