16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Feb 2024 / Dysgwyr

Un o uchafbwyntiau Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yw’r gallu i arddangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd a’r llwybrau y mae dysgwyr yn eu cymryd i gyflawni eu nodau personol a phroffesiynol, i gyd wrth herio’r stereoteipiau o’r hyn y gall prentis fod.

Mae Mia Hodges yn brentis Addysg Feddygol sy’n gweithio o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae hi hefyd yn ymgymryd â phrentisiaeth Cymorth Cymwysiadau Digidol gyda darparwr hyfforddiant ACT.

Penderfynodd Mia ar y llwybr hwn gan ei bod wedi bod eisiau gweithio o fewn y GIG erioed ac roedd yr agwedd ‘dysgu wrth ennill’ ar brentisiaeth yn apelio ati.

Dywedodd:

“Roeddwn i’n gwybod y byddwn yn cael y cyfle i ennill profiad gwaith gwerthfawr, ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a chael cymorth wrth weithio’n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.”

Yn ystod misoedd cyntaf y rôl, teimlodd fod ei hamgylchedd gwaith yn ‘hapus, cyfeillgar a chalonogol’, gan weithio ar amrywiaeth o dasgau o ddydd i ddydd ochr yn ochr â rhannu gwybodaeth yn gyson.

Er ei bod yn newydd i’r swydd, canfu bod ei chydweithwyr bob amser yn barod i wrando ar ei syniadau a chafodd gyfle i ddangos sgiliau a fyddai o fudd i’r tîm, gan dderbyn cydnabyddiaeth a chefnogaeth gyson wrth gwblhau tasgau.

Mantais syndod i’r rôl fu ei hyblygrwydd, gan ganiatáu ar gyfer cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a chynnydd mewn cynhyrchiant.

Mae prentisiaeth Cymorth Cymwysiadau Digidol Mia wedi’i chynllunio ar gyfer unrhyw ddysgwr sy’n gweithio mewn swyddfa ddigidol sy’n defnyddio systemau cwmwl fel Microsoft 365 neu Google for Business. Ei nod yw rhoi gwell dealltwriaeth o’r meddalwedd y mae gweithwyr proffesiynol yn debygol o’i defnyddio bob dydd.

Rhannodd Mia sut mae hi wedi gallu defnyddio’r sgiliau newydd hyn a’u cymhwyso i’w rôl. Dywedodd: “Rwy’n aml yn ymwneud â gwneud gwaith dylunio digidol creadigol ar y cynnwys ar gyfer cyrsiau ac addysgu – wedyn mae gweld eich gwaith yn cael ei ddefnyddio a chael adborth da yn galonogol.

“Ar ôl dangos diddordeb brwd yn y cyfryngau cymdeithasol, gwnaeth fy nhîm ofyn i fi gynnal ein tudalen Twitter adrannol. Gwnaeth hyn i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi o fewn y tîm a dangosodd eu bod nhw hefyd yn gwerthfawrogi fy nyheadau.”

Gan edrych i’r dyfodol, mae Mia yn awyddus i symud ymlaen yn ei gyrfa a datblygu ymhellach o fewn Addysg Feddygol.

Ychwanegodd: “Hoffwn wneud mwy o waith dylunio digidol creadigol ar gyfer cynnwys, yn ogystal â chynnal ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol – ond ar raddfa fwy.

“Ar gyfer y tymor byr, hoffwn ennill cymwysterau pellach ar lefel uwch i wthio fy hun a’m dysgu. Ond y nod hirdymor yw chwarae rhan sylweddol yn y broses o redeg y GIG.

Rhannwch