16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Feb 2024 / Dysgwyr Newyddion

Creodd tri o ddysgwyr ACT argraff ar y beirniaid yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024 yn gynharach y mis hwn.

Mae’r gystadleuaeth genedlaethol yn gyfle i brentisiaid ddangos eu sgiliau a’u gwybodaeth o’u sector. Mae categori ar gyfer bron pob diwydiant.

Cymerodd dysgwyr Lefel 3 Cyfrifeg AAT – Gareth Williams, Marcia Lewis a Jessica Poole – i gyd ran yn yr ornest ac er nad yw’r canlyniadau terfynol wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn, derbyniodd y triawd adborth anhygoel gan y beirniaid.

Yn y gystadleuaeth, rhoddir tasgau i gystadleuwyr sy’n adlewyrchu agweddau nodweddiadol ar waith a chyfrifoldebau a gyflawnir gan y rhai sy’n astudio cadw llyfrau. Mae’r her hefyd wedi’i chynllunio i brofi sgiliau cyflogadwyedd allweddol eraill gan gynnwys ansawdd cyfathrebu ysgrifenedig, y gallu i flaenoriaethu tasgau a gwaith tîm.

Yn ôl yr adborth, roedd etheg waith a chydweithio Gareth a Jessica wedi creu argraff arbennig ar y beirniaid.

Dywedodd yr adroddiad: “Arddangosodd y tîm gyfathrebu da, gan weithio’n dawel ar dasgau a siarad dim ond pan fo angen. Mae hyn yn dangos arddull reoli tasgau effeithlon ac wedi ffocysu.

“Daeth gwaith tîm i’r amlwg fel cryfder, gydag aelodau’r tîm yn helpu ei gilydd gydag ymholiadau a chefnogi ei gilydd drwy gydol y tasgau. Roedd y tîm yn nodedig am ei ymroddiad cwrtais a pharchus, a’u gwnaethant yn glod i’w sefydliad.”

Wrth ymateb i’r newyddion cadarnhaol, dywedodd Nerys Hiscocks, tiwtor AAT yn ACT: “Maen nhw’n dri o’m dysgwyr mwyaf addawol ac fe aethon nhw at y gystadleuaeth gydag agwedd mor dda, roedden nhw’n gwenu ac yn mwynhau eu hunain drwy’r dydd.

“Rwy’n falch o fod yn diwtor arnynt ac roeddwn i hyd yn oed yn fwy balch o’u hagwedd a’r ffordd y gwnaethant gynnal eu hunain drwy gydol y gystadleuaeth a’u cyfraniad i’r trafodaethau oedd yn dilyn.”

Ychwanegodd Karen Richards, Cydlynydd Llwybr AAT: “Roeddwn i’n gwybod pa mor wybodus oedden nhw, ond y peth mwyaf trawiadol oedd eu proffesiynoldeb, eu cydweithrediad a’r ffordd yr aethon nhw ati i gwblhau’r tasgau a osodwyd iddynt. Rwy’n hynod falch o bob un ohonynt. Rwy’n gobeithio y byddant yn cofrestru ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills UK, gan fy mod yn credu y byddent yn disgleirio yn yr arena honno.”

Mae disgwyl i ganlyniadau llawn Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gael eu rhyddhau fis nesaf.

Rhannwch