16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Apr 2024 / Dysgwyr Newyddion

Mae prentis uwch, sydd wedi ennill ei chymwysterau gyda’r darparwr hyfforddiant ACT, wedi creu argraff ar feirniaid y Gwobrau Prentisiaethau gyda’i stori anhygoel o wytnwch a phenderfyniad.

Cafodd Jessica Williams ei henwi’n Brentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024.

Yn ddiweddar fe gwblhaodd Jessica ei chymhwyster Lefel 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae’n credydu’r cymhwyster am rhoi’r ‘anogaeth i ffynnu’ iddi.

Er gwaethaf ei llwyddiant, bu’n rhaid i Jessica ddygymod â digwyddiad trawmatig a amharodd nid yn unig ar ei gwaith a’i haddysg ond hefyd ei bywyd personol.

Yn 2020 fe wnaeth ffrwydrad nwy eithriadol chwalu ei chartref, gan achosi anafiadau difrifol gan gynnwys colli symudedd yn ei dwylo a cholli ei chlyw. Oherwydd hyn, bu’n rhaid iddi ddioddef misoedd o wellhad gan gynnwys llawdriniaethau a thriniaethau niferus.

Er gwaethaf y caledi a’r rhwystrau hyn, roedd Jessica yn awyddus i ailgodi lle gadawodd a pharhau i weithio tuag at ei chymhwyster yn ogystal â dod yn arweinydd darpariaeth cyn-ysgol ysbrydoledig yn Sêr Bach y Cwm yn Ystradgynlais.

Rydw i wedi mynd o fod yn ddifrifol wael ac yn ymladd am fy mywyd i fod yn arweinydd cyn-ysgol llwyddiannus. Mae’n anhygoel, ond dydy fy nhaith ddim wedi bod yn un hawdd,” meddai Jessica.

Bellach yn grymuso cydweithwyr a gwella’r diwylliant gwaith tîm, mae Jessica wedi codi tua £20,000 i wella cyfleusterau yn Ysgol Golwg y Cwm.

Dywedodd ei hasesydd CCLD yn ACT, Nia Allan: “Mae ymrwymiad Jess i ddysgu yn ganmoladwy dros ben a dwi i erioed wedi dod ar draws rhywun mor benderfynol o gwblhau’r rhaglen.  Er gwaethaf y trawma a’r digwyddiad difrifol a brofodd hi a’i theulu, a’r canlyniadau y bu’n rhaid iddi ddelio â nhw, roedd hi’n hynod hyblyg, addasol, a chydwybodol – ac rwy mor falch ohoni.”

Ychwanegodd Judith Hickey, Pennaeth Ysgol Golwg Y Cwm: “Heb os, mae Jessica yn un mewn miliwn; Menyw ifanc sydd, drwy’r cyfnod anoddaf, wedi llwyddo i oresgyn rhwystrau a heriau ac ymgymryd â phrentisiaeth i wella ei gwybodaeth a’i sgiliau proffesiynol er budd eraill.”

Rhannwch