16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
May 2024 / Cwmni Newyddion

Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru Sero Net, gan dynnu sylw at addysg ac uwchsgilio fel ffactorau allweddol sydd eu hangen i gyflawni’r nod hwn erbyn 2050.

O safbwynt busnes, mae hyn yn golygu y bydd angen i gyflogwyr roi cynaliadwyedd wrth wraidd eu cynllunio a’u gweithrediadau yn y dyfodol.

Mewn ymateb i hyn, mae ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, wedi lansio cyfres o gymwysterau sy’n canolbwyntio ar helpu busnesau i ddod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd.

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ACT. Y llynedd, derbyniodd y sefydliad ardystiad ISO 14001 am ei system rheoli amgylcheddol – safon ryngwladol. Ar hyn o bryd dyma’r unig ddarparwr hyfforddiant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i feddu ar y statws.

O’r herwydd, mae ACT mewn sefyllfa dda i ddarparu cymwysterau gwyrdd effeithiol a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ddysgwyr o’u heffaith amgylcheddol bersonol a phroffesiynol.

Un sefydliad sydd wedi gweld manteision cymwysterau gwyrdd yn y gwaith yw’r darparwr pecynnu DS Smith.

Dechreuodd taith ddysgu’r tîm wrth i Bev Fowler, Pennaeth Gwasanaethau Busnes DS Smith, Global Master Data, sgwrsio â Rheolwr Llwybr Rheoli a Gwasanaethau Busnes ACT, Kelly Harry, am gynaliadwyedd. Roedd ACT newydd lansio achrediad newydd mewn Cynaliadwyedd ac fe aeth Bev ati ‘fel tipyn o arbrawf’ i weld a fyddai’r cwrs o fudd i’w thîm.

“Cefais fy synnu gan yr effaith y gall un person ei gael ar yr amgylchedd a’r gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud,” meddai Bev.

“Pan archwiliais fy ôl troed carbon fel rhan o’r cwrs cefais fy siomi gan faint o wastraff roeddwn i a’m teulu bach yn creu.”

Gydag ailgylchu’n rhan fawr o weithrediadau DS Smith, mae gan y busnes ymrwymiad i’r economi gylchol ac ar ôl cwblhau’r achrediad roedd Bev yn awyddus i ddod â phrosiectau pellach yn fyw yng Nghaerffili (cartref swyddfa Gwasanaethau Busnes y DU’r cwmni a’u Prif Swyddfa Ailgylchu yn y DU).

I ddechrau, rhoddodd Bev 19 aelod o’r tîm Gwasanaethau Busnes drwy’r cwrs, gyda disgwyl i 50 arall gwblhau yn ddiweddarach eleni.

“Rwy’n credu bod angen i ni i gyd ddysgu am y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud,” ychwanegodd Bev. “Rydyn ni i gyd yn chwarae rhan mewn sut bydd y byd hwn yn edrych yn y dyfodol felly sut allwn ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol a chael ychydig o hwyl ar hyd y ffordd?

“Fe wnaeth y cwrs fy helpu i ystyried beth alla’i ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn?’

“Mae’n un peth i gwblhau’r achrediad ond peth arall yw ystyried sut byddwch chi’n ei ddefnyddio wedyn wrth symud ymlaen, a daeth llawer o’r gweithgaredd rydyn ni wedi cynllunio ar gyfer yr haf, fel plannu a chreu bocsys gwenyn ac ati, o hynny.”

Pan fydd busnes yn dewis ACT i gyflwyno ei ddysgu seiliedig ar waith, bydd aseswyr yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y cwrs yn gweithio i’r cyflogwr a’r gweithwyr. Yn achos DS Smith, cafwyd trafodaethau cychwynnol dros gyfyngiadau amser.

“Roeddwn ychydig yn bryderus am yr amser y byddai’r achrediad yn ei gymryd,” esboniodd Bev.

“Mae gwaith sy’n rhaid i chi ei gwblhau cyn y cwrs, gallwch chi ddim cofrestru ar gyfer yr achrediad ar y diwrnod a disgwyl ei basio gyda marc da. Roeddem yn pendroni sut y gallem wneud y cwrs yn addas i’n cydweithwyr gan ein bod yn gwybod y byddai dweud bod angen i chi wneud gwerth dwy i dair awr o waith yn eich amser eich hun ac yna treulio diwrnod ar y cwrs, ynghyd â phrawf ar y diwedd, yn ddiwedd arni ar gyfer llawer o bobl.

“Roedd Kelly (o ACT) yn wych oherwydd fe wnaeth hi weithio gyda mi i’w addasu. Fe wnaethom ni drefnu amser i’r cydweithwyr gwblhau’r gwaith rhagarweiniol tra eu bod yn y gwaith a chyd-dwysodd Kelly y cwrs fel bod modd iddynt  gwblhau’r elfen wyneb yn wyneb a’r prawf yn ystod eu diwrnod gwaith arferol.”

Mae ACT yn ystyried bod y busnesau y mae’n gweithio gyda nhw yn bartneriaid ac yn gweithio gyda nhw drwy gydol cwblhau cymwysterau a thu hwnt.

“Mae Kelly a minnau’n siarad yn rheolaidd am y cynnwys a chynnydd y cydweithwyr” parhaodd Bev. “Cawsom un cydweithiwr na lwyddodd i gyrraedd y nod ond mae hi wedi cynnig cefnogaeth i’w cynorthwyo i ailsefyll.

“Mae gweithio gyda Kelly wedi bod yn wych ac mae wastad rhywun yno i ofyn am help neu godi ymholiad. Byddwn yn argymell y cymhwyster i unrhyw fusnes gan ei fod yn bendant yn ychwanegu gwerth.”

Os hoffech ddysgu mwy am gymwysterau gwyrdd ACT, gan gynnwys y diploma newydd mewn Rheoli Ynni a Charbon, gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yma. 

Rhannwch