16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
May 2024 / Dysgwyr

Gall dod o hyd i lwybr gyrfa sy’n iawn i chi ymddangos yn dasg amhosib, yn enwedig os yw’n teimlo fel petai pobl o’ch cwmpas wedi penderfynu ar eu swydd ddelfrydol ers amser maith. Ond nid oes ffordd gywir nac anghywir o ddod o hyd i yrfa rydych chi’n ei charu.

I Millie, dysgwr Twf Swyddi Cymru +, roedd yn achos o wylio fideos gosod brics ar-lein a meddwl ‘beth amdani?’.

Daeth Millie i ACT ar ôl cyfnod heriol yn yr ysgol, ac ymgymryd â’i chymhwyster Sgiliau  Adeiladu Aml-Sgiliau. Ond nid oedd yn  daith ddidrafferth.

“Ar y dechrau roeddwn i’n eistedd o gwmpas yn gwneud y nesa peth at ddim oherwydd fy mod i’n nerfus,” eglura. “Yna fe wnaeth fy nhiwtor fy eistedd i lawr yn ei swyddfa a gofyn ‘wyt ti wir eisiau gwneud hyn, oherwydd os wyt ti, mae’n rhaid i ti roi’r gwaith i mewn’. Dyna oedd y  gic oedd ei hangen arnaf i fwrw ati. Ers hynny, rwyf wedi bod yn gosod brics bob dydd a dysgu’r grefft.”

Er mai gosod brics oedd prif ddiddordeb Millie wrth weithio tuag at ei chymhwyster yn ACT, mae hi bellach wedi ymuno â’r contractwyr Direct Maintenance ar leoliad, ac mae wedi gorfod mynd i’r afael â nifer o sgiliau newydd.

“Dwi’n rendro, plastro, torri plasterfwrdd a phren gyda nhw,” meddai. “Rwy’n hoffi gwneud gwaith ar ystafelloedd ymolchi a cheginau oherwydd mae’n anhygoel gweld y gwahaniaeth rhwng y dechrau a’r diwedd.”

Er mai hi yw’r unig fenyw ar y tîm, mae  Millie wedi dod o hyd i’w thraed yn gyflym, gyda nhw’n sicrhau bod addasiadau fel cyfleusterau ystafell ymolchi addas yn cael eu rhoi ar waith.

“Rwy’n caru fy nghydweithwyr,” meddai Millie. “Maen nhw’n ddoniol ac maen nhw wedi dweud fy mod i’n ddibynadwy. Rwy’n dod i’r gwaith bob dydd ac rwyf yn y lle y mae’n rhaid i mi gwrdd â nhw ar amser. Rwyf hefyd yn rhoi cynnig ar bopeth, rwy’n mwynhau’r gwaith. Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn.”

Mae tiwtor Millie, Ian Rees, wedi gweld ei datblygiad drwy gydol ei thaith TSC+. Dywedodd: “Ers ymuno â ni yn ACT, mae Millie wedi rhagori yn ei sgiliau adeiladu a’i hyder personol. Mae sgiliau gwaith brics Millie o safon uchel iawn ac mae ei hyder wedi tyfu gyda phob asesiad y mae’n ei basio a phob nod y mae’n ei gyrraedd.

“Fel rhan o’i chwrs mae hi wedi cwblhau ei hyfforddiant a’i phrawf CSCS, lle’r oedd yn rhaid iddi ateb 45 allan o 50 cwestiwn am iechyd a diogelwch yn y diwydiant adeiladu yn gywir. Roedd hyn yn hwb hyder enfawr i Millie ac ar nodyn personol, fel ei thiwtor, roeddwn yn hynod falch ohoni, yn enwedig o wybod pa mor galed yr oedd hi wedi astudio ar ei gyfer.”

Hyd yn hyn, mae Millie wedi cwblhau ei dyfarniad a’i thystysgrif Lefel 1 fel rhan o’i chwrs Adeiladu Aml-Sgiliau. Mae hi bellach yn gweithio ar ei sgiliau hanfodol lle mae hi wedi cwblhau ei Chymhwyso Rhifau, ac ar hyn o bryd mae wrthi’n cwblhau ei Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 City & Guilds. Mae hi’n gobeithio parhau â’i dysgu yn ei chwmni lleoliad. 

Gofynnwyd iddi a oedd ganddi unrhyw gyngor i unrhyw un, yn enwedig menywod eraill, sydd eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu; dywedodd Millie: “Ewch amdani a pheidiwch â gadael i’r bechgyn eich bychanu, fe wnaeth rhai ohonyn nhw geisio hynny gyda mi ond roeddwn i’n well na nhw. Daliwch ati a’u hanwybyddu. Os ydych chi eisiau llwyddo, does dim ond yn rhaid i chi wneud y gwaith.”

Rhannwch