16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Jul 2024 / Dysgwyr

Mae dechrau eich taith ddysgu yn gallu bod yn brofiad nerfus, hyd yn oed os ydych chi’n gyffrous i fwrw ati.

Yn ACT, rydym yn gwybod y gall ymgymryd â chwrs addysg newydd, ar unrhyw lefel, fod yn dasg frawychus, ond rydym yn cynnig cymorth i sicrhau eich bod yn teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth i chi ddechrau.

Daeth y dysgwr gofal plant, Jasmine Warner, i’n canolfan Sgiliau Aberdâr yn gynharach eleni drwy ein rhaglen Paratowch (menter a gynlluniwyd i hwyluso taith dysgwyr newydd i mewn i gwrs cyn iddynt ymrwymo i raglen Twf Swyddi Cymru +).

I ddechrau, roedd Jasmine yn bryderus iawn gan ei bod hi heb gael profiad gwych yn yr ysgol ac wedi gadael addysg heb unrhyw gymwysterau ffurfiol. Roedd Jasmine yn credu y byddai gan ACT fwy o amynedd a dosbarthiadau llai, mwy tawel er mwyn iddi allu setlo i mewn. Cofrestrodd yn y gobaith o ennill rhai cymwysterau a phrofiad gwaith. Swydd breuddwydion Jasmine oedd gweithio gyda phlant, ond doedd hi ddim yn siŵr a fyddai hyn byth yn dod yn realiti.

Cafodd Jasmine drafferth gyda’i hyder yn yr wythnosau cyntaf, rhywbeth a godwyd yn gyflym gan ei thiwtoriaid a rhoddodd archwiliadau rheolaidd ar waith er mwyn monitro ei chynnydd a’i chynorthwyo i fagu hyder a meithrin perthynas â’i chyfoedion.

Gydag amser a chefnogaeth daeth Jasmine o’i chragen a symud ymlaen yn gyflym yn y rhaglen, gan symud i’r brif ystafell ddosbarth gyda thiwtor sgiliau erbyn diwedd ei chyfnod gyda rhaglen Paratowch.

Gwthiodd Jasmine ei hun, gan symud ymlaen ychydig wythnosau’n ddiweddarach i  linyn Datblygu ei rhaglen a bachu lleoliad gwaith yn ei rôl ddelfrydol mewn ysgol gynradd.  

Wrth sôn am lwyddiant Jasmine, dywedodd Becky Jones, Hyfforddwr Dysgu Twf Swyddi Cymru + ACT: “Mae Jasmine wedi gwneud mor dda ac mae’n bleser cael ei chwmni yn y dosbarth ac yn y ganolfan. Mae’r adborth o’r lleoliad hefyd wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt.”

Dywedodd Jasmine: “Pan ddechreuais i yn ACT am y tro cyntaf, doeddwn i ddim yn hyderus iawn ynof fi fy hun. Ond, gyda chymorth y staff, cynyddodd fy hyder. Rwy’n teimlo fy mod i’n hapusach nawr o’i gymharu â phan ddechreuais i. Mae hyn oherwydd y cymorth a gefais gan y staff yn ACT a’r ffaith eu bod yn credu ynof fi a’i bod heb adael i mi roi’r gorau iddi.”

Rhannwch