16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Sep 2024 / Newyddion

Mae’r athrawes ysgol Inas Alali, wnaeth ffoi’r rhyfel yn Syria gyda’i dau blentyn yn dilyn marwolaeth ei gŵr, wedi ennill gwobr genedlaethol yn ei gwlad fabwysiedig, Cymru.

Mae Inas, sydd yn byw yng Nghaerdydd, wedi ennill y Gorffennol Gwahanol: Dyfodol i’w Rannu yng Ngwobrau Ysbrydoli!  Addysg Oedolion 2024 a fydd yn cael ei gyflwyno yng Ngwesty’r Coal Exchange, Caerdydd ar Fedi 10.  Mae hi’n un o ddwsin o enillwyr gwobrau.

Yn uchafbwynt yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru o fis Medi 9-15,  mae’r gwobrau yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Maen nhw’n cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu.

Mae pob un o enillwyr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, magu hyder a helpu cymunedau i fod yn fywiog ac yn llwyddiannus.

Wrth ymateb i’w gwobr, dywedodd Inas: “Roedd fy llawenydd yn annisgrifiadwy, yn gyntaf oherwydd roeddwn i eisiau cyflwyno neges i bawb sydd wedi’u gorfodi gan amgylchiadau i newid eu bywyd a symud i wlad arall: nid yw’n ddiwedd y byd a gallwn barhau i symud ymlaen a rhoi popeth sydd gennym heb osod rhwystrau i’n cynnydd.

“Yn ail, rwyf wedi ennill llawer o wobrau yn Syria, a hefyd yn y DU, ond mae hyn yn golygu llawer i mi oherwydd ei fod yn ymwneud â’r brifysgol lle rwy’n falch fy mod wedi ennill fy ngradd broffesiynol gyntaf yn y DU ar ôl gadael fy ngwlad. Rwy’n falch iawn o’m cysylltiad â’r brifysgol hon.”

Mae’r gwrthdaro yn Syria wedi lladd mwy na 600,000 o bobl gyda miliynau yn fwy wedi’u dadleoli ac yn dal heb le i’w alw’n gartref. Wrth wynebu dyfodol ansicr yn Syria, gadawodd Inas a’i phlant heb unrhyw ddewis ond ceisio hafan ddiogel, gan gyrraedd Caerdydd yn 2019 trwy raglen ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.

“Roeddwn i’n gweithio ym maes addysg am 16 mlynedd yn fy Syria annwyl, ond ar ôl marwolaeth fy ngŵr a dechrau rhyfel, roedd fy mywyd, a bywydau fy mhlant, dan fygythiad.”

Fe wnaeth ailgynnau ei hangerdd dros addysg, ond er ei bod yn dal gradd yn Saesneg, roedd hynny fel ail iaith ac nid oedd i’r safon ar gyfer addysgu yng Nghymru.

Felly, ymgymerodd Inas â dwy flynedd o waith addysgu gwirfoddol i wella ei Saesneg, cyn mynd yn ôl i addysgu llawn amser.

Gwnaeth gais am y Dystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg, Addysg Ôl-orfodol a Hyfforddiant (TAR PCET), gofyniad i unrhyw athro tramor sydd am fynd i mewn i system addysg ôl-16 Prydain.

Fe wnaeth ei stori gryn argraff ar Brifysgol Metropolitan Caerdydd lle cafodd ei chroesawu i’w hamgylchedd cynhwysol gyda breichiau agored, gan ganiatáu iddi gymhwyso i addysgu addysg a hyfforddiant ôl-16.

Tiwtor ei chwrs oedd Leanne Davies sy’n cofio: “Roedd hi mor ddewr ac fe roddodd gipolwg i mi ar yr amgylchiadau ofnadwy wnaeth newid ei bywyd a’i harwain i Gaerdydd.

“Roedd hi’n gadarnhaol trwy’r amser ac ymgysylltodd â llawer o diwtorialau a mecanweithiau cymorth i wella’i hun yn barhaus a chyrraedd y safon broffesiynol angenrheidiol i addysgu mewn addysg ôl-16.”

Er mwyn cefnogi ei theulu a thalu am eu llety, roedd gan Inas ddwy swydd ran-amser, gan gynnwys dysgu Arabeg yng Nghanolfan Arabeg Fayza, tra’n parhau i astudio.

Gyda chymorth ei mentoriaid, mae hi wedi cwblhau ei horiau addysgu ffurfiol i gymhwyso ac mae bellach yn dysgu mathemateg i oedolion yn ACT Training, tra’n parhau i addysgu Arabeg yn rhan-amser.

Ar ôl gweld ei gwlad wedi’i chwalu, mae Inas yn disgrifio Prifysgol Metropolitan Caerdydd fel “Prifysgol Noddfa” am fod yn “sefydliad amrywiol a chynhwysol iawn” ac mae’n ychwanegu y bydd yn parhau â’i hastudiaethau i adeiladu dyfodol gwell fyth iddi hi a’i phlant. 

Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i ddechrau ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein yn rhedeg trwy gydol mis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, gyda chyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, meithrin sgiliau bywyd a gwella ansawdd bywyd.

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg: “Mae’r ymdrech, y dalent a’r penderfyniad sydd wedi cael eu harddangos gan yr holl gystadleuwyr yn rownd derfynol Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Rwy’n benderfynol y dylai Cymru fod yn fan lle mae pawb yn cael cyfle i ddychwelyd i ddysgu ac adnewyddu eu gyrfa ni waeth pa gam o’u bywydau maen nhw ynddo. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle gwych i ddarganfod eich angerdd dros ddysgu neu wella eich sgiliau presennol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am gymorth neu newid cyfeiriad i edrych ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Cymru’n Gweithio.

“Mae dysgu fel oedolyn nid yn unig yn ffordd wych o wella cyflogadwyedd ond mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â hybu hunan-barch a hyder.”

Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Hoffwn longyfarch holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024 a diolch iddynt am rannu eu straeon ysbrydoledig gyda ni.

“Maen nhw wedi goresgyn heriau sylweddol, fel materion iechyd, diweithdra, hyder isel, neu gyfrifoldebau gofalu, ac wedi trawsnewid eu bywydau trwy ddysgu. Wrth wneud hynny, maen nhw hefyd wedi ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru.

“Mae dysgu yn daith gydol oes sy’n gallu cyfoethogi ein bywydau mewn sawl ffordd. Nawr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod ni’n cefnogi ac yn dathlu oedolion yng Nghymru sy’n dychwelyd i addysg yn ddiweddarach mewn bywyd yn y gobaith o ddyfodol mwy disglair.”

Rhannwch