16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Oct 2018 / Company

Mae Carly Murray wrth ei bodd yn cyflenwi cymwysterau seiliedig ar waith sy’n creu argraff ar yr unigolyn yn ogystal ag ar y dysgwyr y byddant yn eu cefnogi.

Ers pum mlynedd, bu Carly, 35 oed, yn asesydd Sicrhau Ansawdd Mewnol tîm addysg a datblygu ACT Training. Mae’n cyflenwi Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu a Phrentisiaethau Uwch mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghaerdydd.

Yn awr, cafodd ymroddiad Carly i’w dysgwyr ei gydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu yn y dosbarth Tiwtor ac Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Yn ogystal â’r 30 o ddysgwyr y mae’n eu hyfforddi, mae Carly’n gweithio gyda thîm o 14, sy’n cynnwys aseswyr, tiwtoriaid, mentoriaid a chynghorwyr mewn nifer o sectorau cefnogi gan gynnig cymorth ac arweiniad iddynt.

“Rwy’n credu bod fy nghefndir fel teithiwr a’r ffaith fy mod wedi colli llawer o ysgol pan oeddwn i’n blentyn yn golygu bod gen i barch mawr at amrywiaeth dysgwyr ac at y gallu i ddysgu a ffynnu mewn llu o wahanol ffyrdd,” meddai.

“Rwy wrth fy modd yn dysgu ac rwy’n meddwl y gall fy mrwdfrydedd fod yn heintus. Rwy wrthi’n barhaus yn ymchwilio i ddamcaniaethau, syniadau a ffyrdd o weithio y gallaf i a fy nhîm eu defnyddio.”

Bu Carly yn astudio ym Mhrifysgol Queen’s, Belffast cyn ennill TAR ym Mhrifysgol Caer-wysg. Dechreuodd ei gyrfa yn dysgu llythrennedd i blant o gefndiroedd difreintiedig. Yna, bu’n cynllunio ac yn hwyluso rhaglenni astudio i helpu pobl ifanc, a oedd mewn perygl o droseddu, i fynd i fyd gwaith a hyfforddiant.

Ar ôl hynny, enillodd Carly gymwysterau ym maes llythrennedd a rhifedd i oedolion a daeth yn diwtor Sgiliau Hanfodol yn y sector Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Ar ôl cael dros 14 blynedd o brofiad yn y diwydiant addysg a hyfforddiant, mae Carly’n rhagori ar darged asesydd ‘rhagorol’ ACT Limited yn gyson. Mae dros 90% o’i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster ac mae wedi sicrhau cyfradd lwyddiant o 100% ddwywaith yn y pum mlynedd diwethaf.

Un peth arbennig a wnaeth oedd helpu i ddatblygu rhaglen ddysgu a lansiwyd ym mis Mawrth i roi cyngor ac arweiniad mewn ysgolion gyda Gyrfa Cymru ac ACT.

Wrth longyfarch Carly ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Rhannwch