16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
May 2019 / Learners

Wedi tyfu i fyny o gwmpas plant, roedd Ellie Curtis, 20, bob amser yn gwybod ei bod eisiau dilyn gyrfa yn gweithio gyda phlant ond yn teimlo ar goll mewn addysg brif ffrwd ac yn teimlo nad oedd ei hanghenion dysgu ei hun yn cael eu cefnogi. Nawr, diolch i’w Phrentisiaeth gydag ACT, mae Ellie wedi ail-gydio mewn dysgu ac yn ffynnu mewn rôl reoli ym Meithrinfa Little Tigers yn Rogiet.

“Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd yn yr ysgol a doeddwn i ddim wedi cael diagnosis ar gyfer fy anghenion dysgu, gan nad oedd yr ysgol roeddwn i’n ei mynychu yn barod i’m profi. Yn y diwedd, fe wnaeth mam dalu i mi gael gwneud y prawf yn breifat.  Ar ôl i mi gael diagnosis swyddogol, fe wnes i sylweddoli fy mod i wir mwynhau bod o amgylch plant ag anghenion tebyg a sylweddolais mai dyma beth yr oeddwn am ei wneud fel proffesiwn. “

Gwyddai Ellie y byddai’n elwa o feithrin gwybodaeth fwy ymarferol, felly yn dilyn awgrym ei thiwtor coleg, fe wnaeth ymchwil i ACT a’u cyrsiau gofal plant. Fe wnaeth Ellie ddarganfod, yn ogystal â gweithio i feithrin y profiad roedd hi am ei gael mewn amgylchedd meithrin, y gallai hefyd ennill y cymhwyster roedd hi am ei gael ar yr un pryd.

Ellie Curtis playing with three children in Little Tigers Nursery

Yn anffodus, wynebodd Ellie nifer o rwystrau wrth iddi chwilio a, feithrinfa a gwahaniaethwyd yn agored yn ei herbyn oherwydd ei hanghenion dysgu ychwanegol: Awtistiaeth, Dyslecsia a Syndrom Irlen. Ar ôl cael ei gwrthod gan amryw o leoliadau eraill, cafodd Ellie leoliad gyda Little Tigers. Gyda statws ‘Da’ gan Estyn, mae’r feithrinfa, sydd wedi’i lleoli yn Rogiet, wedi bod yn gweithio gydag ACT am dros 4 blynedd ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys dau leoliad, gwasanaeth cofleidiol a chlwb ar ôl ysgol a chlwb gwyliau. Dechreuodd Ellie ar ei chymhwyster CCLD Lefel 3 a chanfu fod gweithio ar y swydd yn gweddu i’w harddull dysgu yn llawer mwy na bod yn amgylchedd traddodiadol yr ystafell ddosbarth: 

“Yr hyn rwy’n ei garu fwyaf am weithio gydag ACT yw fy mod i ar leoliad yn dysgu. Dydw i ddim i ffwrdd o’r lleoliad yn eistedd mewn ystafell ddosbarth yn ysgrifennu. Mae’n well gen i fod yn fwy ymarferol a bod gyda’r plant.”

Fe wnaeth Ellie ffynnu yn y lleoliad hwn, ac ar ôl cwblhau ei chymhwyster Gofal Plant, Dysgu a Datblygu (CCLD) Lefel 3 yn fuan, dechreuodd drafod opsiynau dysgu pellach gyda Little Tigers ac ACT. Gan benderfynu ei bod am weithio gyda phlant hŷn, anogwyd Ellie i gofrestru ar Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae. Er bod agweddau ar y cwrs yn heriol iddi ar y dechrau, roedd Ellie yn mwynhau’r gwaith ymarferol yn fawr iawn, a gydag ymweliadau rheolaidd gan ei aseswr yn teimlo cefnogaeth aruthrol.

 

“Mae fy asesydd yn rhoi gymaint o anogaeth i mi ac mae’n rhoi adborth cadarnhaol ar ba mor dda yr wyf yn gwneud cynnydd, sydd wir wedi fy helpu. Mae hi bob amser yn rhoi adborth adeiladol ac yn fy atgoffa o’r holl bethau gwych rwyf wedi’u gwneud a’u dysgu. Mae hi wir yn deall fy rhwystrau i ddysgu ac mae mor braf cael y gefnogaeth un-i-un hon, yr ydw i’n ymateb yn dda iawn iddo, yn hytrach na gorfod cystadlu â 30 o bobl eraill yn yr ystafell ddosbarth. “

Gydag ACT, roedd Ellie hefyd yn gallu ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Mathemateg a Saesneg fel rhan o’i gwaith cwrs. Er ei bod wedi cael  trafferth gyda mathemateg bob amser yn yr ysgol pasiodd Ellie ei harholiadau o’u sefyll y tro cyntaf ac mae’n teimlo bod y gefnogaeth gan ACT wedi chwarae rhan enfawr yn ei llwyddiant.

“Dwi wir ddim yn meddwl y byddwn i wedi gwneud cystal os na fyddai ACT wedi bod mor agored ei feddwl. Mae fy asesydd yn deall yn llwyr nad yw’r un dull yn gweddu i bawb pan ddaw’n fater o addysgu. Ni fyddwn wedi gorffen unrhyw un o’m cyrsiau mor gyflym pe na fyddai’r dull hwnnw wedi’i gymryd ac rwy’n lwcus iawn fy mod yn gweithio mewn lleoliad sy’n cefnogi’r ethos hwnnw hefyd. “

Mae Ellie wedi gweithio mor galed i oresgyn ei rhwystrau i ddysgu ac yn 2017 daeth llwyddiant iddi wrth iddi dderbyn gwobr ‘Prentis y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Busnes Sir Fynwy. Moment anhygoel o falch iddi hi ei hun a Little Tigers:

“Fe wnaeth nifer o fy hen athrawon ysgol fy llongyfarch ac roedd yn ddiddorol oherwydd heb ACT mae’n debyg na fyddwn i wedi cyrraedd y fan hyn ac wedi bod mewn sefyllfa i ennill gwobr.”

Ar ôl casáu dysgu erioed am ei bod yn teimlo nad oedd ganddi unrhyw gefnogaeth, mae Ellie wedi dal y byg dysgu yn swyddogol. Trwy ACT a’r gefnogaeth gan ei Aseswr, mae Ellie wedi darganfod bod ei galluoedd llythrennedd wedi gwella’n aruthrol. Er iddi gysylltu darllen â meddyliau negyddol yn y gorffennol, roedd Ellie yn falch iawn o orffen darllen ei llyfr cyntaf erioed y llynedd:

“Roedd hynny’n gyflawniad enfawr i mi gan nad oeddwn wedi gallu darllen na gorffen llyfr o’r blaen gan na allwn ei wneud. Yn awr drwy’r gwaith astudio roedd rhaid i mi ei wneud ar gyfer y gwaith cwrs mae fy lefelau a’m galluoedd wedi gwella llawer ac felly fy hyder hefyd.” 

Mae Ellie yn parhau i ragori ac ymgymryd â chyfrifoldebau newydd yn ei lleoliad, ac ar ôl cael ei dyrchafu i swydd Dirprwy Reolwr, mae’n ymgymryd â’i chymhwyster CCLD Lefel 5. Hi hefyd yw’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer Little Tigers ac mae’n ymgymryd yn rheolaidd â IDPau (Graddfeydd Rhyngweithio â Phobl Anabl) a chyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo’r plant. Mae Ellie yn teimlo bod ei chymwysterau a’i phrofiad yn y swydd wedi chwarae rhan enfawr yn ei datblygiad i swydd uwch reolwr:

“Po fwyaf o gyrsiau a lefelau rydych chi’n eu cyflawni, y mwyaf manwl fydd eich gwybodaeth am y gwaith a’r maes pwnc. Dwi’n gwybod cymaint mwy erbyn hyn ac yn teimlo’n hyderus yn fy nealltwriaeth. Heb yr wybodaeth o’r cwrs a chael y profiad ymarferol o weithio gyda’r plant, fyddwn i ddim yn gallu gwneud y gwaith dwi’n ei wneud nawr. “

Yn ogystal ag ymgymryd â chyfrifoldebau newydd, nid oes atal ar Ellie bellach ac mae eisoes yn ystyried pa gwrs y bydd yn cofrestru ar ei gyfer nesaf ar ôl iddi orffen ei chymhwyster CCLD Lefel 5.

“Mae’n bosibl y byddaf yn meddwl am ddilyn cwrs prifysgol, rhywbeth na fyddwn byth wedi’i ystyried o’r blaen. Yn fy lleoliad, rwy’n gweithio ac yn arbenigo gyda phlant sydd ag anghenion ychwanegol, felly rwy’n meddwl yr hoffwn i astudio rhywbeth sy’n ymwneud â hynny. Nawr fod gen i fy nghymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn ogystal â’r cyrsiau rwyf wedi’u cwblhau’n llwyddiannus gydag ACT, maen nhw’n bwyntiau cydnabyddedig sy’n gallu cyfrif tuag at fynediad i gwrs prifysgol. Rwyf hefyd yn awyddus i roi hwb i fy nghymwysterau ac i wneud cwrs arall gydag ACT hefyd.”

Mae Ellie yn profi, gyda’r gefnogaeth gywir, y gall unrhyw un oresgyn eu rhwystrau i ddysgu a chyflawni eu potensial. Wrth sôn am ei thaith dysgu arbennig, dywed Ellie:

“Gall unrhyw un gyflawni ei botensial, os ydyn nhw’n cael y gefnogaeth iawn.  Rwyf yn argymell ACT i bawb drwy’r amser gan na fyddaf mae’n debyg wedi cyrraedd lle rydw i heddiw hebddyn nhw.”

Rhannwch