16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Oct 2019 / Learners

Mewn dim ond tair blynedd, mae Lara Baldwin wedi datblygu o fod yn hyfforddai i fod yn asesydd uchel ei pharch â dros 40 o ddysgwyr yn ei gofal.

Ym maes gofal plant y mae cefndir Lara, 30 oed, ac mae wedi trosglwyddo cyfoeth o wybodaeth a phrofiad i fyd dysgu seiliedig ar waith gydag un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru, ACT Limited. 

Mae Lara, sy’n gweithio yng nghanolfan ACT yn Ocean Park House, Caerdydd, yn cyflwyno Prentisiaethau Lefel 2, 3 a 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (GDDP) a chymwysterau Gwaith Chwarae i bobl o wahanol oedrannau ac ar wahanol lefelau mewn meithrinfeydd a chylchoedd chwarae.

Cychwynnodd Lara ar ei gyrfa yn fuan ar ôl gadael yr ysgol ac mae wedi ennill Gradd Anrhydedd BA mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac, yn fuan wedyn, Radd Meistr mewn Addysg. Tra oedd yn gweithio mewn meithrinfa, cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gofal Plant i’w helpu i ddeall a chefnogi’r staff yr oedd yn eu mentora.

Mae gwaith a datblygiad personol Lara’n cael eu cydnabod yn awr a hithau ar restr fer Gwobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Mae Lara’n ymroi yn llwyr i wella’i gwybodaeth a’i sgiliau er mwyn rhoi’r hyfforddiant gorau posibl i’w dysgwyr,” meddai Helen Clarke, Rheolwr y Llwybr Plant a Phobl Ifanc, Gwaith Chwarae a GDDP gydag ACT Limited.

Mae Lara wedi cyrraedd safonau ardderchog ac mae’n rhagori’n gyson ar dargedau ‘rhagorol’ y cwmni ar gyfer aseswyr, sy’n golygu bod dros 90% o’i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster.

“Er mai ers cyfnod byr rwy’n asesydd o’i gymharu â rhai, rwy wir yn teimlo mai dyma’r lle i mi,” meddai Lara. “Rwy wrth fy modd yn gweld eraill yn herio’u hunain ac yn datblygu gan lwyddo mewn ffordd nad oedden nhw’n credu y byddai’n bosibl. Mae gwylio dysgwyr yn rhagori ar eu disgwyliadau yn fy ngwneud i’n hapus iawn yn fy swydd.

“Nid profiad unwaith-am-byth yw dysgu i mi ond addewid i ni’n hunain i ddal ati i ehangu ein meddwl ac i ymdrechu i wneud ein gorau glas trwy’n hoes.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lara a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

Rhannwch