16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Oct 2022 / Dysgwyr

Mae darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru, ACT, yn dathlu buddugoliaeth eu dysgwr Gofal Iechyd, Jenna Smith, sydd wedi ennill gwobr bwysig Ysbrydoliaeth!

Enillodd y darpar nyrs, a fu’n gweithio yn Ysbyty prysur y Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yn ystod pandemig Covid, y wobr Sgiliau am Waith, yn y Gwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! Casglodd yr anrhydedd mewn seremoni fawreddog yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ddydd Iau, 20 Hydref.

Mae’r gwobrau’n dathlu pobl ar draws Cymru sydd wedi cael profiad cadarnhaol o ddysgu fel oedolion. Mae’r gwobrau, sy’n cael eu cynnal gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith,  yn  bodoli er mwyn anrhydeddu’r rhai sy’n gwella eu bywydau eu hunain drwy hyfforddiant – gan ddangos y trawsnewidiad pwysig sy’n gallu dod o ddysgu gydol oes.

Cafodd Jenna swydd am y tro cyntaf fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol yn Ysbyty Tywysog Siarl, cyn cofrestru ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd gydag ACT, i gymhwyso’n ffurfiol yn y sector gofal iechyd a’i chael yn agosach at ei nod o fod yn nyrs gymwys.

Yna, fe darodd y pandemig a throwyd ward Jenna i mewn i Uned Gofal Dwys ar gyfer cleifion Covid. Ond er gwaethaf yr amgylchedd straen uchel a’r profiadau torcalonnus, roedd Jenna yn fwy penderfynol nag erioed i helpu cleifion yn y GIG.

Trwy weithio gyda chleifion bregus, dysgodd yn gyflym am offer a thechnegau arbenigol i gefnogi cleifion trwy gydol y pandemig, yn ogystal â darparu gofal a chefnogaeth gyfannol. Cafodd Jenna ei disgrifio fel “tŵr o nerth” gan ei chydweithwyr yn y ward.

Wrth ei bodd â chael ei chyhoeddi fel yr enillydd, dywedodd Jenna, o Ferthyr Tudful, na allai fod wedi’i wneud heb ACT a’r gefnogaeth a gafodd gan y staff.

Dywedodd: “Rydw i wrth fy modd yn ennill Gwobr Sgiliau am Waith gydag Ysbrydoli!, ar ôl cael fy enwebu gan Natalie Williams, fy asesydd gwych gydag ACT. Mae Natalie wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi fy helpu i drwy amgylchiadau personol a phroffesiynol anodd iawn a brofais tra’n gweithio yn yr ysbyty yn ystod y pandemig.

Gallai ddim diolch nac argymell ACT ddigon am fy nghefnogi drwy fy nghymhwyster, sydd wedi fy ngalluogi i ddechrau fy ngradd nyrsio gyda’r Brifysgol Agored. Mae ACT yn ffordd anhygoel, hyblyg o ennill cymwysterau wrth i chi weithio!

Roedd Natalie Williams, Gwiriwr Mewnol Iechyd Clinigol yn ACT, yn hapus i rannu newyddion gwych Jenna. Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn gweld Jenna yn ennill y wobr hon gan ei bod wir yn ei haeddu. Roedd Covid yn gyfnod anodd iawn iddi, ond doedd hi byth yn gadael iddo ei rhwystro hi am ei bod hi mor benderfynol o ennill ei chymhwyster a rhoi rhywbeth yn ôl.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael yn ACT, gweler yma

Rhannwch