Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Nod ein Prentisiaeth Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i gefnogi gweithwyr clinigol proffesiynol a’r tîm Gofal Iechyd ehangach. Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i ymgymryd â’ch cyfrifoldebau mewn lleoliad clinigol yn broffesiynol ac yn fedrus. Bydd yn eich galluogi i gefnogi rhediad esmwyth yr amgylchedd clinigol.
Gweithwyr cymorth sy’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol a’r tîm Gofal Iechyd ehangach i’w galluogi i gyflawni eu rolau’n effeithiol. Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.