Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae galw mawr am sgiliau adeiladwaith oherwydd bod prinder enfawr. Mae diwydiant adeiladu’r DU yn awyddus iawn i ddenu pobl ifanc fel chi. Gyda chymaint o swyddi gwag, fe welwch fod amrywiaeth eang o swyddi cyffrous yn aros i gael eu llenwi.
Rydym yn ymdrin â gosod brics, gwaith coed, a phaentio ac addurno. Bydd dysgwyr yn elwa o brofiad gweithdy ymarferol, gan eu galluogi i ennill sgiliau mewn lluniadau technegol, gosod brics, a theilsio.