Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ymarfer Proffesiynol Lefel 4 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth uwch yng nghyd-destun lleoliadau plant.
Datblygwyd y Brentisiaeth hon mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid allweddol y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr.
Fe’i cynlluniwyd ar gyfer dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch. Mae’r Brentisiaeth hon yn darparu dilyniant i ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) neu sydd â phrofiad perthnasol yn y sector.