Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Tystysgrif Manwerthu Lefel 2 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a dilyniant gyrfa yn y diwydiant manwerthu.
Bydd y Brentisiaeth yn edrych ar allu’r dysgwr i weithredu’n effeithiol mewn amgylchedd manwerthu, a datblygu sgiliau mwy arbenigol yn y maes hwn. Gall dysgwyr ddewis o amrywiaeth o unedau, er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud gwelliannau yn y gweithle
Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio yn y sector manwerthu ar hyn o bryd, sydd am ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn ystod eang o rolau manwerthu.