16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mar 2024 / Blog

Heddiw mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol Mathemateg neu Pi, diwrnod sy’n cael ei ddathlu bob blwyddyn ar y 14eg o Fawrth oherwydd pa mor debyg yw’r dyddiad i werth pi (3.14).

Y thema eleni yw ‘chwarae gyda mathemateg’, gan dynnu sylw at yr amrywiaeth o sefyllfaoedd y gellir defnyddio mathemateg ynddynt.

D’yw hi ddim yn gyfrinach bod sgiliau rhifedd da yn hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd – yn y cartref ac yn y gwaith. Gallant ddatgloi cyfleoedd gwaith, hwyluso cyllidebu cartref da a chaniatáu i rieni helpu eu plant gyda’u gwaith cartref.

Ond, mewn adroddiad diweddar, disgrifiwyd cyflwr sgiliau rhifedd y DU fel endemig ac mae hyn yn cael ei gefnogi gan arolwg cenedlaethol sy’n awgrymu bod gan 32 y cant o bobl Cymru sgiliau rhifedd gwan. Fodd bynnag, ar gyfartaledd, mae mwy na hanner y rhain ar lefel y gallent wella yn hawdd gyda’r gefnogaeth gywir.

Anaml iawn y mae perthynas rhwng sgiliau rhifedd gwael a gallu person ac mae yna lawer o ffactorau sy’n gallu cyfrannu at rywun yn credu eu bod yn ‘wael’ mewn mathemateg. Gallai’r rhain amrywio o brofiadau negyddol cynnar wrth ddysgu’r pwnc yn yr ysgol i ddioddef diffyg hyder neu bryder mathemategol.

Os ydych yn awyddus i hogi eich sgiliau mathemateg, ni ddylai diffyg cymhwyster ffurfiol eich atal. Mae Lluosi yn rhaglen a ariennir gan y llywodraeth sy’n helpu i hybu rhifedd yn y gymuned. Mae’n agored i unrhyw un sydd heb TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth), ac mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael yn dibynnu ar sut rydych chi’n defnyddio mathemateg fel arfer.

Er enghraifft, mae Lluosi yn cynnig y cwrs Materion Ariannol sy’n canolbwyntio ar lythrennedd ariannol. Mae’n ymdrin ag agweddau cyllid personol amrywiol, gan gynnwys cyllidebu, cynilo a benthyca. Mae yna hefyd gwrs Excel sy’n canolbwyntio ar sut i ddefnyddio rhaglen Microsoft Excel. Mae hyn yn cynnwys cofnodi data, didoli a hidlo celloedd a chreu fformiwlâu.

Ar hyn o bryd mae darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru, ACT, yn cyflwyno’r rhaglen Lluosi i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Chaerdydd.

Dywedodd Lisa Rodrigues, Pennaeth Dysgu ar gyfer Gwaith yn ACT: “Mae dealltwriaeth rhifedd sylfaenol yn hynod o bwysig. Mae’n effeithio ar fywyd bob dydd, o goginio i gyllidebu.

“Gall hefyd helpu i ddarparu cyfleoedd proffesiynol. Gall sgiliau rhifedd cryf fod jest y peth i roi hwb i’ch hyder a’ch rhoi ar ben ffordd yn eich gyrfa a thu hwnt.”

Os hoffech chi ddarganfod sut y gall Lluosi eich helpu i roi hwb i’ch sgiliau rhifedd gallwch fynd i’n tudalen Lluosi neu gysylltu heddiw.

Rhannwch